Fe Gawn Fendith Cariad Pur : Geiriau
Bendith Cariad Pur
Fe gawn fendith cariad pur,
Ganwyd ni yn blant ein Tad;
Nawr tra’n aros am y nef
Gweithiwn drosto ym mhob gwlad.
Bendith ddaw o’r Ysbryd Glân,
Cysur ac arweiniad llawn;
Arwain ddefaid coll at Grist
Gorffwys ynddo ef a gawn.
Yn ei deyrnas drwy y byd,
Ysbryd Sanctaidd rho yn awr;
Calon llawn o gariad Crist,
Nerth i’w ddilyn ef bob awr.
Etifeddion gyda’r Mab,
Unwyd, cadwyd trwy ei waed;
Gras a bendith cariad mawr
Sy’n ein haros wrth ei draed.
Meter: 77 77 D. Geiriau gan Cyf. Eirlys Gruffyudd (Colin Gordon-Farleigh b. 1943), Copyright © 2011. CCLI:
Fe Gawn Fendith Cariad Pur : Recordio
- Tôn: Salzburg, a gyfansoddwyd gan Jacob Hintze (1622 – 1702) a’i gysoni gan Johann Sebastian Bach (1685 – 1750). Parth cyhoeddus . Descant © 2021 Richard M S Irwin.
- Perfformiad ℗ 2020 Richard Irwin Music®. Cedwir pob hawl. ISRC UKTU21900294
Dadlwythwch
Mae’r gerddoriaeth a ddefnyddir yn y recordiad hwn yn perthyn i’r Parth Cyhoeddus, ond mae’r hawliau Perfformiad ℗ yn eiddo i Richard M S Irwin. Gallwch glicio ar y Botwm Lawrlwytho i gael y recordiad MP3 i’w ddefnyddio mewn Addoliad (gan gynnwys gwasanaethau ar-lein) neu at ddefnydd personol yn unig. Ar gyfer defnydd arall o’r recordiad, Cysylltwch â Ni.
Os ydych chi’n defnyddio ein hemynau, ystyriwch rodd i helpu i gadw’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y recordiadau diweddaraf, dilynwch ni ymlaen SoundCloudFacebook and Instagram..
Listen on Streaming Services
To listen using streaming services such as SoundCloud, Spotify, Apple Music, YouTube, Tidal, Amazon, Deezer etc. Click Here.
Bendith Cariad Pur : Sgôr PDF
Defnyddiau Darlithyddol ac Eraill